World Shore Angling Championships

Rhywogaethau Pysgod

Ci môr brith lleiaf

Fe'i gelwir hefyd yn Forgi Brith Bach neu yn ôl ei enw gwyddonol Scyliorhinus canicula. Gall bwyso hyd at bedwar pwys a chredir ei fod yn cyrraedd 100cm ond yn nyfroedd y DU mae'r hyd mwyaf tua 80cm.  Mae ci môr brith bach yn siarcod bach, dŵr bas gyda chorff main a phen swrth. Mae dwy asgell y cefn yn cael eu lleoli tua diwedd y corff. Mae gwead eu croen yn arw, yn debyg i ansawdd papur tywod. Fe'i ceir yn bennaf dros waelod tywodlyd, graeanog, neu fwdlyd o ddyfnderoedd o ychydig fetrau i lawr i 400m.

Macrell

Mae Macrell (enw gwyddonol Scomber scombrus) yn bysgodyn pwysig i bysgotwyr fel pysgodyn chwaraeon ac fel abwyd. Maent yn gyffredin ledled y DU ac Iwerddon yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf ac yna byddant yn ymfudo i foroedd cynhesach yn ystod misoedd yr hydref. Gallant gyrraedd hyd at 2 bwys ac amrywio rhwng tua 30cm - 45cm. Mae mecryll yn bysgod bach i’w hela yn y dŵr canol neu uchaf, mae ganddynt gefn marmor glas/gwyrdd gyda bariau du yn rhedeg i lawr yr ochrau. Gyda bol arian ac ochrau is, esgyll byr a chynffon fforchog iawn.

Lleden

Mae Lleden (enw gwyddonol Pleuronectes platessa) yn cael eu dal yn gyffredinol rhwng Mawrth a Medi gan bysgotwyr glannau wrth iddynt dreulio'r gaeaf mewn dŵr dyfnach allan ar y môr lle maent yn silio. Maent i'w cael ar welyau môr mwdlyd, tywodlyd a graean ar draws y DU a dyfroedd Iwerddon. Gallant gyrraedd 5 pwys ac amrywio o tua 28cm - 66cm. Mae lleden yn lledod llygad dde ac fel arfer yn frown, ond gall fod yn llwyd neu wyrdd i gydweddu â'r amgylchedd. Mae eu croen yn weddol llyfn gyda graddfeydd bach a brith gyda dotiau oren amlwg.

Gwyniad y môr

Mae gwyniad y môr a elwir hefyd yn ôl ei enw gwyddonol Merlangus Merlangius yn bysgodyn bach - sampl o 2 bwys yn ddaliad da iawn, gydag oddeutu 1 pwys y cyfartaledd sydd wedi’i ddal yn y Deyrnas Unedig. Gallant amrywio rhwng 27cm a 45cm. Fodd bynnag, os ydynt yn brin o ran maint maent yn gwneud i fyny am hynny yn y niferoedd. Mae gwyniaid y môr yn gyffredin iawn o amgylch y DU, yn enwedig o gwmpas yr hydref a'r gaeaf. Mae ganddynt ên uchaf yn ymwthio allan ychydig ac mae’r cefn yn liw brown, llwyd neu wyrdd, yn pylu ar yr ystlys i liw golau, weithiau ystlys ariannaidd ac o dan y bol. Fel pob aelod o deulu’r penfras mae gan wyniad y môr dair asgell y cefn.

Lleden y Llaid

Mae Lleden y Llaid  (enw gwyddonol Limanda limanda) yn lledod cyffredin i gyd o amgylch y DU, yn enwedig mwyaf cyffredin ym Môr y Gogledd. Byddant yn byw dros wely môr tywodlyd, mwdlyd ac i raddau llai graean i lawr at uchafswm o 70 - 100 metr o ddyfnder. Gallant dyfu hyd at 45cm ac maent yn cael eu dal fel arfer ymhell o dan un pwys. Mae lleden y llaid yn lliw brown tywodlyd gyda smotiau oren gwan a smotiau brown du neu dywyll. Mae’r rhan isaf yn wyn ac mae eu croen yn arw.

Lleden

Mae Lleden (enw gwyddonol Platichthys flesus) yn lledod cyffredin iawn ac oherwydd eu dosbarthiad eang, eu parodrwydd i gymryd y rhan fwyaf o abwyd a'r ffaith y gallant ddod i mewn i ddŵr bas iawn maent yn dal yn gyffredin iawn i bysgotwyr DU. Gallant dyfu hyd at 4 pwys ond yn cael eu dal fel arfer yn 1-2 pwys yn y DU, gall eu hyd amrywio o tua 27cm - 50cm. Mae lleden yn siâp diemwnt crwn gydag arwyneb garw ar hyd y llinell ochrol. Gall lliw amrywio o frown golau i wyrdd i llwydaidd, weithiau gyda smotiau oren tywyll. Mae gan y mwyafrif helaeth o leden lygaid ar ochr dde eu pen ond mae gan leiafrif lygaid ar y chwith.

Draenog y Môr

Mae draenog y môr a elwir hefyd yn ôl ei enw gwyddonol Dicentrarchus labrax yn bysgodyn â galw mawr amdano diolch i'w nodweddion ymladd ac enw da’r pysgodyn sy’n edrych yn drawiadol. Yn y DU cânt eu dal fel arfer yn 1-5 pwys ond gall bwyso hyd at 15 pwys a gallant fesur rhwng 43cm a 4 troedfedd! Mae draenog y môr llai (rhai o dan 2 bwys) yn cael eu galw'n ddraenog y môr basle ac yn aros mewn heigiau yn ac o gwmpas aberoedd, tra bod draenog y môr mwy o faint yn byw mewn dŵr dyfnach ac yn helwyr unig. Mae ganddynt gorff llyfn gyda graddfeydd arian gwahanol, mae eu hasgell ddorsal gyntaf yn cynnwys pigau miniog a'u hail asgell ddorsal yn llai heb unrhyw bigau.

Brithyll

Y brithyll tri cudynnog yw'r rhywogaeth brithyll mwyaf yn nyfroedd y DU, ond mae yna bum rhywogaeth brithyll ychwanegol a geir yn nyfroedd y DU. Ceir brithyll y glannau, y brithyll pump cudynnog a’r brithyll pedwar cudynnog. Mae'r rhan fwyaf o’r rhywogaethau hyn yn cael eu nodi gan y nifer o farfau (ddeintellau) sydd ganddynt. Fel y crybwyllwyd y brithyll Mair tair barf yw’r mwyaf a gall gyrraedd hyd at 2 droedfedd a 3 pwys ond yn pwyso tua phwys ar ôl cael ei ddal. Mae pob brithyll gyda chorff hir fel llysywen gyda dorsal hir iawn ac esgyll rhefrol. Gellir eu gweld mewn dyfroedd mewndirol bas o amgylch y DU ac Iwerddon ac yn fwy cyffredin mewn tir creigiog neu gymysg.

Penfras ifanc

Penfras ifanc yw'r enw a roddir ar benfras sydd heb dyfu’n llwyr, nid yw penfras yn benfras nes ei fod yn tyfu i tua chwe phwys, felly cyn hynny cyfeirir ato fel penfras. Mae penfras ifanc yn cael eu dal yn bennaf gan bysgotwyr glannau ac fel arfer yn pwyso dim mwy na 5 pwys. Maent i’w gweld o amgylch y DU, er yn rhywogaeth dŵr oer maent yn fwy cyffredin o gwmpas yr hydref a'r gaeaf, er bod rhai yn parhau i fod o amgylch y DU gydol y flwyddyn, yn enwedig y rhai llai. Fel arfer, maent yn wyrdd/llwyd/lliw haul gydag ochrau a chefn brith ac yn wyn o dan y bol.

Pengernyn

Mae Pengernyn yn bysgodyn dyfnforol rheibus bach, o amgylch y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain, maent yn bysgodyn sy’n edrych yn wahanol iawn ac mae ganddynt lawer o nodweddion unigryw. Mae gan Bengernyn ben mawr iawn sy'n cael ei arfogi ac mae ganddynt bigau o gwmpas eu corff, pob un at y diben i amddiffyn eu hunain. Mae ganddynt deimlyddion o dan eu pen a ddefnyddiant i 'gerdded' ar hyd gwely'r môr ac esgyll pectoral mawr a ddefnyddir i 'hedfan' trwy’r môr. Mae yna dros gant o rywogaethau o Benhaearn ar draws y byd, ond mae gan y DU ddosbarthiad eang o Ysgyfarnog y Môr, Penhaearn Coch a Phenhaearn Llwyd. Gallant bwyso hyd at 5 pwys gydag Ysgyfarnog y Môr y mwyaf o'r rhywogaethau yn y DU.

Morgath bigog

Mae Morgath Bigog a elwir hefyd yn Roker, Cath Fôr, Cath Fôr Bigog neu drwy ei enw gwyddonol Raja clavata yn bysgodyn gwerthfawr iawn i bysgotwyr y glannau ei ddal. Gellir eu gweld o gwmpas y DU ac Iwerddon ar wely môr clir, tywodlyd, mwdlyd a graean bras ac mewn rhannau clir o dir yng nghanol ardaloedd creigiog. Gallant fesur rhwng 41cm - 120cm ac yn y DU maent yn cael eu dal fel arfer rhwng 2 – 12 pwys. Mae’r Morgath bigog mewn siâp barcud gyda chynffon hir. Mae ganddynt batrwm oren / marmor brown golau ar ei gefn, gyda smotiau golau sy'n cwmpasu eu corff. Mae rhan ganolog o'u corff yn cael ei gynnwys mewn cyrn a phigau, a oedd yn tyfu i ymylon y pelydrau wrth iddynt fynd yn hŷn.

Morgi

Mae Morgi (enw gwyddonol Scyliorhinus stellaris) yn aelod o deulu’r morgi a hefyd yn cael ei alw’n gi môr brith mwyaf neu Forgi Brith Mawr.   Mae'r pysgod yn llawer llai cyffredin nag ei berthynas agos y morgwn Fraith Leiaf gan ei bod yn well ganddynt yn gyffredinol ddŵr dyfnach a threulio'r rhan fwyaf o'u dyddiau’n cuddio ac yn bwydo yn y nos. Maent yn cael eu dal fel arfer yn 3 troedfedd a rhwng 4 - 8 pwys ond gallant gyrraedd hyd at 5 troedfedd ac 20 pwys! Mae gan y Morgi gorff hir gyda dwy asgell y cefn wedi eu gosod ymhell iawn yn ôl ar y corff ac mae ganddo esgyll pectoral amlwg. Fel rhywogaeth y siarc nid yw esgyll wedi eu segmentu gyda phelydrau neu gigau ac mae holltau tagell luosog yn bresennol ar y ddwy ochr o'r corff. Mae'r lliw yn gyffredinol yn frown i felyn gyda smotiau mawr ar draws y corff.

Llysywen bendoll

Mae'r llyswennod bendoll a elwir hefyd yn Congren Ewropeaidd i'w cael yn bennaf o amgylch arfordir y Gorllewin o Ynysoedd Prydain ond gellir dod o hyd iddynt mewn mannau eraill ym Mhrydain, ond mewn niferoedd llai. O fewn y DU cânt eu dal fel arfer rhwng 5-25 pwys ac oherwydd eu maint a'r ffaith eu bod yn ymladd yn galed pan fyddant yn cael eu dal mae llyswennod bendoll yn cael eu dal ymysg pysgotwyr môr. Mae llyswennod bendoll hyd at 25 pwys yn ddalfeydd posibl o'r lan, ond mae'r llyswennod bendoll mwyaf yn byw allan ar y môr mewn dŵr dwfn, yn aml o gwmpas llongddrylliadau. Mae ganddynt gorff cyhyrol hir fel neidr, croen heb gennau sy'n llwyd tywyll, lliw glas neu wyrdd. Mae asgell y cefn yn amrywio'r holl ffordd o gwmpas y corff ac yn uno â'r asgell rhefrol.

Llysywen ariannaidd

Mae'r Llysywen ariannaidd a elwir hefyd yn Llysywen Cyffredin (enw gwyddonol Anguilla Anguilla) yn cael eu dal yn bennaf gan bysgotwyr mewn afonydd, aberoedd a thraethau yn agos at afonydd dŵr croyw. Gall pob un fod hyd at 5 troedfedd o hyd ac yn pwyso 15 pwys ond cânt eu dal fel arfer yn 1-3 pwys. Mae'r llyswennod ariannaidd yn rhywogaeth gymhleth gyda llawer o wahanol gyfnodau i’w gylch bywyd, o wy, i larfa, i lyswennod gwydr, i lyswennod ifainc, i lyswennod melyn ac yn olaf i lyswennod ariannaidd. Pan fyddant wedi cyrraedd y cam llyswennod ariannaidd o'u bywyd mae ganddynt gyrff hir a thenau sy'n cael ei orchuddio mewn llysnafedd. Mae’r cefn a’r ochr yn llwyd i wyrdd tywyll gyda'r hanner isaf a'r bol yn olau/gwyn.