World Shore Angling Championships

Penmaenmawr

Penmaenmawr

Yn gryno. Glan môr, llwybrau cerdded a machludau haul trawiadol.

Mae pentref Penmaenmawr ar arfordir y gogledd yn rhannu nifer o nodweddion â phentref cyfagos Llanfairfechan. Dyma sut yr oedd pentrefi glan-môr ers talwm, yn sydêt ac yn dawel, â phromenâd hir, pwll padlo a maes chwarae i blant, a rhes o gytiau traeth traddodiadol (heb anghofio’r parc sglefrfyrddio ar gyfer yr 21ain ganrif). Mae’r traeth eang a thywodlyd yn wych ar gyfer codi cestyll tywod a chwaraeon dwr (mae yma glwb hwylio llewyrchus lleol), a gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws y Bae i Sir Fôn ac Ynys Seiriol.

Mae tebygrwydd arall rhwng Penmaenawr a Llanfairfechan – mae’r ddau bentref yn ganolfannau arbennig o dda ar gyfer cerddwyr a theithwyr. Mae’r llwybrau cerdded sy’n arwain i’r bryniau yn croesi ffyrdd Rhufeinig a safleoedd hanesyddol, yn cynnwys caer o’r Oes Haearn, cylch cerrig y Meini Hirion a ‘ffatri fwyeill’ ryfeddol o Oes y Cerrig – mae archaeolegwyr wedi darganfod offer a gynhyrchwyd yma mewn lleoliadau gwahanol ar draws Prydain. Os ydych yn gyrru, cofiwch am y daith gyffrous dros Fwlch Sychnant, y llwybr hanesyddol i dref Conwy.

Mae mwy o hanes i’w ddarganfod yn Amgueddfa Penmaenmawr, lle gallwch ddysgu am orffennol chwarelyddol y dref. Ymhlith y cyfleusterau ac atyniadau lleol eraill mae cwrs golff, sy’n ddigon heriol ynddoi’i hun heb i’r golygfeydd godidog o’r arfordir dynnu eich sylw.